cwmni Ennyn
Awaken Productions

003(2).jpg
 


 
 
005.jpg

Y mae Cwmni Ennyn yn gwmni theatr ddwyieithog sydd wedi ei sefydlu i gynnal cyfleoedd i bobl ifanc cyfarwyddo a llwyfannu gwaith newydd.

DSC_1461.JPG

Rydym am greu straeon a cherddoriaeth gyfoes a chwareus, yn ogystal â ffeindio ffyrdd newydd o berfformio testunau clasurol.

cropped4.jpg

Rydym am gynnal profiadau gwerthfawr ym mhob maes y theatr i bawb sy'n gweithio gyda ni cyn iddynt ddechrau ar eu gyrfeydd yn y diwydiant, ar ben y gefnogaeth sydd angen arnynt i droi ei syniadau mewn i berfformiadau.

 
 

Ein Prosiectau

2019-04-01.jpg
 
 
everyone 5x7.png

SGRIPTŶOFEST ADREF

Awst 2020 - Ar-lein yn fyw ar Facebook a YouTube

Actorion, Dramodwyr a Chyfarwyddwyr:
Huldah Knox-Thomas, Stephen Forster, Niall Morgan, Conor McGowan, Josh Miller, Niamh Buckland, Catherine Mary, Caroline Clark, Roger Boyle, Alexandra Christodoulaki, Maxita Swain, Ayesha Nawaz, Gwenllïan Davies, Matilda Kirk, Goncalo Dias, Ricardo Dias, Hannah Rae-Sefton, Lynne Baker, Georgia Sian Clarke, Huw Evans, Julie McNicholls Vale, Owen Watts

 

Ym mis Awst 2020, yn ystod Pandemig Covid-19, lansiom ni gŵyl theatr gymunedol ryngweithiol i bobl a oedd yn aros gartref. Roedd SGRIPTŶOFEST, a ariannwyd gan y cynllun “Cer i Greu Adref”, yn ŵyl ddwyieithog ar-lein yn cael ei darlledu'n byw i gymunedau Aberystwyth a thu hwnt. Ffilmiwyd wyth darn newydd o ysgrifennu gan ddramodwyr cymunedol yng nghartrefi pobl ac o'u cwmpas trwy alwadau fideo-gynadledda. Roedd y cyfranogwyr o bob oed a chefndir, ac yn cynnwys cymysgedd o actorion a dramodwyr profiadol a rhai a oedd yn ysgrifennu, actio neu'n cyfarwyddo am y tro cyntaf.

Roedd y fideo byw hefyd yn codi arian ar gyfer Cronfa Celfyddydau Cymunedol Anna Evans, a sefydlwyd llynedd, a chododd dros £500 ar y noson i gefnogi prosiectau celfyddydau cymunedol yng Ngheredigion.

Gallwch wylio'r ffilmiau byrion, yn ogystal â'r sioe fyw gyfan ar ein Tudalen YouTube.

 
 
little boots image 5x7.jpg

LITTLE BOOTS

March 2021 - Online

Gan
Daniel Abbott

 

Mewn cydweithrediad â Blood Sweat and Tea Productions Ltd

Mae'r Ymerodraeth Rufeinig yn cwympo. Wrth i deyrnasiad gormesol Tiberius Cesar ddod i ben, mae ei nai mabwysiedig, Gaius, yn camu i mewn. Dan arweiniad ei chwaer annwyl, Drusilla, mae'n edrych fel bod Gaius yn barod i gael Rhufain yn ôl ar y trywydd iawn ... nes bod ei gyflwr meddwl yn dechrau torri. Wedi'i amgylchynu gan praetoriaid uchelgeisiol, brodyr a chwiorydd didostur a seneddwyr ystyfnig, mae Gaius yn disgyn i wallgofrwydd sydd pellach tu hwnt...

Mae Little Boots yn ddrama fawreddog sydd wedi'i gosod yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr drwg-enwog Rhufeinig Caligula. Gyda ffocws arloesol ar faterion iechyd meddwl a phrofiadau menywod yr Hen Rufain, mae'r ddrama sain bedair rhan hon a wnaed mewn cydweithrediad â Blood Sweat and Tea Productions, yn dwyn ynghyd gast cyfun o ddeuddeg actor proffesiynol a chymunedol a sgôr o gerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd gan Anna Sherratt a Jessica Gittins.

Mae Little Boots yn lansio ar y 1af o Fawrth 2021 ar nifer o blatfformau podlediadau.

 
 
 
66468308_433426004054845_4125914084694556672_n.jpg

PROSIECT CARTREF

2019 - Ceredigion, Cymru

Cydweithwyr
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Amgueddfa Ceredigion
Cyfryngau AMP

Er Cof
Anna Evans
I ddarganfod mwy, ymwelwch â www.annacelf.co.uk

 

Yn 2019 cawsom ein gwahodd i gydweithio â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar brosiect a ariennir gan HEFCW o'r enw "Cartref/Home". Roedd y prosiect ar gyfer pobl o bob oed yng nghymunedau gwledig Ceredigion er mwyn annog cysylltiad rhyngddynt, ynghyd â chaniatáu myfyrwyr o'r brifysgol arwain gweithdai cymunedol a gweithgareddau artistig yn dilyn arweiniad gan ymarferwyr proffesiynol. Roeddem yn falch o weithio'n rheolaidd gyda chymunedau o Ganolfan Deuluol Tregaron, Cartref Preswyl Bryntirion, Ysgol Henry Richard ac Ysgol Pontrhydfendigaid trwy gydol y flwyddyn. Daeth y prosiect i ben gydag arddangosfa tair wythnos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o waith gan gynnwys ffilmiau, cerddoriaeth wreiddiol, adrodd straeon, tipis, ffotograffiaeth, gwaith saer, cerfluniau, barddoniaeth a phaentiadau, ynghyd â dathliad cymunedol o'r holl gyfranogwyr a'u gwaith caled dros y saith mis.

Darparodd Cwmni Ennyn sesiynau hyfforddi ar gyfer myfyrwyr ym maes celfyddydau cymunedol, arwain agweddau perfformio a cherddoriaeth yng ngweithdai cymunedol, cymerodd rhan yn y preswyliadau artistig a chefnogodd gwaith curadu’r arddangosfa derfynol.

 
 
sgriptop logo banner 5x7.png


SGRIPTIO

7yh pob Dydd Sadwrn - Discord

 

“I realised the only reason I have been sane this year is because I have these interactions every Saturday”
~ Georgia, aelod o Sgriptio

Dechreuodd Sgriptio yn 2018 fel fforwm agored i ddramodwyr, actorion a chyfarwyddwyr o bob cefndir rhannu eu gwaith ysgrifennu a syniadau newydd gyda'u cyfoedion, a rhoi adborth a chyngor i bobl eraill mewn gofod hamddenol.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd y sesiynau eu symud ar-lein, sydd wedi agor y grŵp i nifer o aelodau sy'n cyfrannu o bell. Rydym yn gwahodd cyfranogwyr i rannu gwaith newydd, darllen ac ymateb i waith pobl eraill a chymryd rhan mewn gemau ysgrifennu ac ymarferion sy'n helpu i'w ysbrydoli. Gall yr ysgrifennu newydd sy'n cael ei rannu cynnwys sgriptiau ffilm, sgriptiau theatr, sioeau cerdd, nofelau, barddoniaeth, dyluniadau gemau a mwy!

Mae croeso i bawb ymuno â'n gwefan "discord", os ydynt yn ysgrifenwyr newydd, yn feirdd profiadol neu'n mwynhau actio a chlywed gwaith newydd. Ar hyn o bryd rydym yn cwrdd bob dydd Sadwrn am 7yh trwy “sgwrs llais” ac mae gennym sianeli sgwrsio dros destun agored yn ystod yr wythnos. Os oes angen unrhyw help arnoch wrth ddefnyddio discord neu ymuno â’r grŵp, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda!

 
 
IMG_2072.jpg

ROLL FOR REMISSION

Awst 2022 - Eisteddfod Genedlaethol, Tregaron
Gorffennaf 2019 - Local Theatre, Sheffield
Ebrill 2019 - Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
Gorffennaf 2018 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Mai 2018 - Gŵyl Drama Welwyn
Chwefror 2017 - The Station, Bryste
Tachwedd 2016 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan
Anna Sherratt

 

“Y mae grŵp o bobl ifanc yn cyfarfod mewn ysbyty ar gyfer diwrnod o nodwyddau, procio, pils a gwenwyn - ystadegau a lwc sy’n penderfynu eu tynged. Y mae grŵp o anturiaethwyr ifanc yn cyfarfod er mwyn dechrau taith ar draws gwlad ddieithr - rholyn o ddis sy’n penderfynu eu tynged. Dyma stori am ddewrder a chyfeillgarwch mewn dau fyd, lle mae brwydro dreigiau yn teimlo’n haws na brwydro cancr.”

Mae Cwmni Ennyn yn dod â’r darn arobryn, unigryw o theatr ddyfeisiedig hwn yn fyw, gydag opsiynau stori wahanol pob tro wrth i’r gynulleidfa rolio dis mawr! Mae llawer o berfformiadau wedi codi arian ar gyfer elusen Young Lives VS Cancer - sy'n cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd trwy gyfnod anodd o fyw gyda chancr. Mae'r darn yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol a ysgrifennwyd gan bobl ifanc ar raglen gerddoriaeth Young Lives VS Cancer. Mae hon yn wirioneddol yn noson unfath, gyda chwerthin, dagrau, ac yn anad dim, gobaith.

“All oncology nurses should see it”

“Wir yn un o'r pethau gorau dwi wedi gweld yn y 5 mlynedd dwetha”

“Brilliantly done. You won’t see the same show twice!”


 
 
Sea-Maiden-55@0,3x.jpg

PROSIECTAU'R GORFFENNOL

 

Cysylltu â Ni

IMG_2072.jpg
 
 

Os hoffech chi gysylltu â ni, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu nôl cyn gynted â phosibl.

 
 

Theatr. Cerddoriaeth.
Straeon. Cyffro.

Sea-Maiden-37@0,33x.jpg