"Little Boots": Dyddiad Cyhoeddi Drama Sain newydd

LiltleBoots.jpg

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd pennod gyntaf “Little Boots”, ein drama sain newydd a wnaed mewn cydweithrediad â Blood, Sweat and Tea Productions yn cael ei rhyddhau ar Fawrth 1af 2021. Bydd gweddill y gyfres yn cael ei ddarlledu trwy gydol mis Mawrth, gyda phedwar pennod i gyd. Mae wedi bod yn gyfle gwych i weithio gyda chast o actorion proffesiynol a chymunedol o bob rhan o'r DU ar ddarn gwych o ysgrifennu newydd gan Daniel Abbott.

Mae “Little Boots” yn dilyn teyrnasiad yr Ymerawdwr Rhufeinig drwg-enwog Caligula, dechrau ei reol a'i ddisgyniad i wallgofrwydd. Mae'n adrodd stori gyfarwydd am beryglon rhoi gormod o bŵer i un person, yn ogystal â darparu mewnwelediad mwy cyfoes i'r frwydr a gofnodwyd yn dda a brofodd yr ymerawdwr gyda'i iechyd meddwl, ac archwiliad manylach o fenywod Rhufain Hynafol.

Dwedodd Daniel Abbott, a wnaeth ysgrifennu'r ddrama, "Mae e wedi bod yn bleser gwylio’r cast bendigedig yma dod â ‘Little Boots’ yn fyw, a gobeithio y byddwch yn ei fwynhau."

Diancwch i Rufain hynafol moethus, cyfoethog ac anhrefnus gyda ni'r gwanwyn hwn mewn darn newydd ar gyfer pobl sy'n caru drama hanesyddol, ffantasi a gwleidyddol!!

Curtis Rodneycy