Cwmni Ennyn yn derbyn grant gan y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo addysg am ymosodiadau rhywiol a chydsyniad
Yn gynnar yn 2020, dyfarnwyd swm o £10000 i Gwmni Ennyn er mwyn iddynt gynorthwyo a chynhyrchu drama newydd sbon i fynd ar daith i ysgolion a grwpiau ieuenctid cymunedol ar draws Cymru. Dyluniwyd Hi, Fi a'r Peth gyda grwpiau ffocws o artistiaid proffesiynol, pobl ifanc a phobl sydd wedi profi ymosodiad rhywiol, er mwyn grymuso goroeswyr trwy rannu eu profiadau a chodi ymwybyddiaeth am ymosodiadau rhywiol, trais a chydsyniad.
Roedd y pandemig yn golygu bod yn rhaid ailgynllunio'r cynhyrchiad hwn i weithio o bell ac o gwmpas rheoliadau'r ysgolion, a bydd nawr yn ffilm a gynhyrchwyd yn broffesiynol. Bydd hwn, ynghyd ag adnoddau addysg, yn cael ei ddarparu i ysgolion a grwpiau ieuenctid cymunedol, yn ogystal â gweithdai a sesiynau Holi ac Ateb gyda'r tîm cynhyrchu dros alwadau fideo. Gobeithiwn y bydd hwn yn brofiad pwerus ac addysgiadol i'r bobl ifanc, gan yn anffodus yn ôl ystadegau bydd nifer ohonynt yn debygol o ddioddef ymosodiad rhywiol yn ystod eu bywydau.
Dywedodd Anna Sherratt, a ysgrifennodd yr addasiad ffilm a'r sgript wreiddiol, “Wrth i ni barhau i weld penawdau torcalonnus yn y newyddion am ymosodiadau rhywiol, a chlywed adleisiau o’r un profiadau yn straeon ein cyfeillion, mae nawr yn amser pwysig i fyfyrio ar weithredoedd troseddwyr a dewrder anhygoel y bobl o bob rhyw sydd wedi bod drwyddo. Mae'r prosiect hwn yn gyfle unigryw ac arloesol i rannu atebion gonest i'r cwestiynau yr oeddem i gyd yn ofni eu gofyn, a darparu rhywfaint o obaith ar gyfer y dyfodol."