SGRIPTIOFEST: Galwad am ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr a pherfformwyr!
Mae SGRIPTIOFEST nôl ar gyfer gŵyl gyffrous eto yn 2022! Rydym yn chwilio ysgrifenwyr cymunedol newydd i gynhyrchu sgriptiau / ddarnau byr 10 tudalen neu lai. Bydd ein hoff rai yn cael eu ffilmio fel rhan o'r ŵyl ar-lein neu'n cael eu perfformio fel darlleniad byw yma yn Aberystwyth ym mis Chwefror 2022. Mae'r ŵyl eleni wedi cyllido gan Grant Celfyddydau Cymunedol Anna Evans, a sefydlwyd er cof artist a hwylusydd lleol anhygoel ac i gefnogi gwaith celfyddydau cymunedol yng Ngheredigion.
Canllawiau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig:
Yn ddelfrydol nid oes angen i'r ddarnau cael mwy na thri cymeriad.
Rydym yn awgrymu bod pob darn yn para llai na 10 munud (o dan 10 tudalen).
Gan ein bod yn annog cyfranogwyr o bob oedran, dylai'r holl gynnwys fod yn addas ar gyfer pob oedran. Nid yw hyn yn golygu na allwch drafod themâu mwy aeddfed, ond mae'n golygu bod rhaid ichi feddwl yn greadigol o ran y ffordd y mae pethau'n cael eu trafod.
Gall y math o ysgrifennu a'r pwnc fod yn unrhyw beth, ee gair llafar, sgript theatr, sgript ffilm, rhan o nofel, cân - cyhyd â'ch bod yn rhannu gwaith gwreiddiol eich hun.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer cyflwyniadau yw Dydd Sul 14 Tachwedd 2021.
Rydym hefyd yn chwilio perfformwyr a chyfarwyddwyr newydd i gymryd rhan yn y darlleniadau wedi'u ffilmio a / neu’r rhai byw, felly rhowch wybod i ni os oes gennych chi diddordeb cymryd rhan.
Rydym yn croesawu pobl sydd â phob lefel o brofiad, hyd yn oed os dyma'ch tro cyntaf yn cymryd rhan mewn perfformiad ffilm neu ar lwyfan. Byddwn yn cefnogi chi wrth ddod â'ch syniadau'n fyw! Rydym yn annog i bobl o bob math o wahanol gefndiroedd i gymryd rhan, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, aelodau o'r mwyafrif Byd-eang, cyfranogwyr niwroamrywiol, pobl ag anableddau ac aelodau o'r gymuned LHDTC+ - pwy bynnag ydych chi, rydym am glywed eich stori chi!
Anfonwch eich cynigion, mynegiadau o ddiddordeb neu gyflwyniadau sgript i anna.s@awakennyn.co.uk gan ddweud a fyddai'n well gennych gymryd rhan yn yr ŵyl ar-lein neu’r perfformiad byw erbyn dydd Sul 14 Tachwedd 2021.