“Little Boots” yn derbyn detholiad Platinwm mewn Gŵyl Sain Ryngwladol!

Mae ein prosiect drama sain, mewn cydweithrediad â Blood Sweat and Tea Productions Ltd ac sydd wedi ysgrifennu gan Daniel Abbott, yn cael ei arddangos yng nghasgliad haen uchaf Gŵyl Ffuglen a Chelfyddydau Sain ryngwladol “Hear Now”.

Mae'r ddrama ar gael yn y “Casgliad Platinwm” fel rhan o'r “Podcast Palooza” blynyddol ymhlith detholiad o bodlediadau ffuglen o ansawdd uchel iawn. Yn ystod yr ŵyl, gwahoddwyd y tîm cynhyrchu i ymuno â Phanel “Cynhwychwyr Platinwm”, gyda chynhyrchwyr ffuglen sain ar draws y byd. Mae National Audio Theatre Festivals, Inc. yn trefnu gŵyl “Hear Now” yn flynyddol fel cyfle i waith prif storïwyr sain cael ei ddathlu a'i rannu.

Cafodd “Little Boots” ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021 ac mae'n dilyn teyrnasiad Gaius Cesar, sy'n fwy adnabyddus fel yr ymerawdwr drwg-enwog Caligula. Yn ystod y gyfres, mae ef a'i chwaer annwyl, Drusilla, yn llywio byd torchog Rhufain hynafol wedi'u hamgylchynu gan deulu maleisus a seneddwyr ystyfnig. Mae'r ddrama yn cynnig rhai safbwyntiau modern ar iechyd meddwl, teulu a gwleidyddiaeth, gan ddangos efallai na fyddai digwyddiadau yn y gorffennol wedi bod mor wahanol i'r byd yr ydym yn ei adnabod heddiw.

Dywedodd Daniel, y dramodwr, "Mae wedi bod yn bleser gwylio'r cast gwych hwn yn dod â Little Boots yn fyw, a gobeithio y byddwch chi'n ei fwynhau."

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb, ble bynnag yr ydych yn y byd, sydd wedi gwrando hyd yn hyn, ac yn ddiolchgar i'r tîm gwych yn NATF am drefnu'r ŵyl eleni.

Gwrando a phleidleisio am bodlediadau’r ŵyl: https://www.natf.org/landing-podcast-palooza/
Panel Cynhyrchwyr Platinwm yn ystod gŵyl “HEAR Now”:
https://youtu.be/03ru6pBSisA?t=322
Gwrandewch ar y gyfres gyfan “Little Boots” ar eich hoff gwasanaeth podlediad:
https://anchor.fm/little-boots 


Curtis Rodneycy