Cwmni Ennyn yn derbyn Grant Celfyddydau Cymunedol cyntaf Anna Evans

Rydym yn falch iawn i dderbyn £3000 gan Grant Celfyddydau Cymunedol Anna Evans yn 2021. Bydd hyn yn mynd tuag at SGRIPTŶOFEST, gŵyl o ysgrifennu newydd ar-lein wedi'i lleoli yng Ngheredigion - ac rydym yn edrych ymlaen at ei chyflawni yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Anna Sherratt, cyfarwyddwraig Cwmni Ennyn “Rydym yn falch iawn i dderbyn y Grant Celfyddydau Cymunedol Anna Evans cyntaf erioed, a fydd yn helpu llawer o ysgrifenwyr a dramodwyr ifanc a chymunedol i ddod o hyd i’r dewrder i roi eu lleisiau allan yn y byd, yn ogystal â darparu cyfleoedd mentora a thipyn o lawenydd sydd mawr ei angen yn ystod yr adeg anodd hon. Roeddem yn ffodus iawn i weithio gydag Anna yn y gorffennol, a gobeithiwn hefyd y bydd hwn yn gyfle inni gymryd ysbrydoliaeth o'r prosiectau anhygoel wnaeth hi gyda chymunedau o bob oed. Edrych ‘mlaen!”

Dechreuodd teulu a ffrindiau Anna codi arian ar gyfer Grant Celfyddydau Cymunedol Anna Evans er cof amdani ddwy flynedd yn ôl er mwyn cyllido artistiaid ac ymarferwyr celfyddydau lleol i barhau â'r gwaith a wnaeth Anna gyda'r gymuned. Fe wnaethant osod nod o £5000 i ddechrau ond cawsant sioc enfawr pan wnaethant fwy na dyblu'r targed. Roedd y gefnogaeth gan fusnesau ac unigolion lleol yn dangos pa mor bwysig, nid yn unig oedd Anna, ond hefyd y gwaith yr oedd yn ei wneud.

Dyma ddolen i'r wefan ar gyfer y Grant: http://annacelf.co.uk/

Gallwch cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r grant at contact@annacelf.co.uk

Gwnewch y peth diddorol nesaf” Anna Evans

Anna Sherrattcy