SGRIPTIOFEST 2022

Dychwelodd SgriptioFest yn 2022 gan roi llwyfan i awduron, actorion a chyfarwyddwyr cymunedol rannu eu gwaith newydd ym mhob fformat!

Roedd mwy o gyflwyniadau nag erioed eleni mewn amrywiaeth eang o arddulliau, gan gynnwys dramâu byr, gwaith llafar, ffilm a ddetholiad o nofel sydd ar y gweill. Gyda chymorth Grant Celfyddydau Cymunedol Anna Evans, roedd modd inni gynnwys cyfres o weithdai a chyfweliadau gydag ysgrifenwyr a storïwyr proffesiynol rhwng Tachwedd 2021 a Chwefror 2022 a ddarparu'r cyngor gorau oll yn y diwydiant. Roedd rhain yn cynnwys y dramodydd Lucy Gough, y storïwr enwog Phil Okwedy, yr awdur arobryn a’r bardd Eric Ngalle Charles, a’r dramodydd ac awdur Elgan Rhys. Daeth y prosiect i ben gyda ddigwyddiad byw ar-lein a oedd yn cynnwys gwaith wedi llwyfannu a gwaith wedi’i ffilmio, gyda meddalwedd chynadledda fideo yn ein galluogi i gysylltu awduron, cyfarwyddwyr a pherfformwyr o Geredigion a phob cwr o’r DU ac Iwerddon. Roeddem yn falch iawn o weld darnau a themâu gwahanol iawn eleni, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned o bob oed a chefndiroedd gwahanol iawn yn cynhyrchu gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd tua 150 yn y cynulleidfa ar-lein, ac edrychwn ymlaen at weld mwy o bobl yn gweld y gwaith ar ein tudalennau Facebook a YouTube dros y misoedd nesaf.

Rydym yn hynod o ddiolchgar i Grant Anna Evans am wneud y prosiect yn bosibl, i’r holl ysgrifenwyr am rannu eich gwaith newydd a’ch gweithiau sydd ar y gweill, i’r cyfarwyddwyr a’r awduron am rannu eich egni creadigol yn y ddarnau, i’n staff am wneud SGRIPTIOFEST yn llwyddiant (er gwaetha’r trafferthion technegol) a phawb sydd wedi cefnogi’r ysgrifennu newydd trwy fod yn y gynulleidfa.

Os colloch chi SgriptioFest, gallwch wylio rhan 1 gyda'r ddolen yma (dechrau am 00:08:45, diwedd tua 1:17:30)
a gallwch wylio rhan 2 yma (dechrau am 00:04:03)

Bydd y ddarnau unigol yn ymddangos ar ein sianel YouTube yn fuan.

Dilynwch y ddolen yma am fwy o wybodaeth am Grant Celfyddydau Cymunedol Anna Evans.

A dyma ddolen gyda gwybodaeth am ein grŵp Sgriptio wythnosol.

Anna Sherrattcy