Celfyddydau perfformio yn ystod COFID-19: Datganiad gan ein Cyfarwyddwraig Artistig
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bob cwmni celfyddydau a digwyddiadau byw, technegwyr, artistiaid a gweithwyr llawrydd, ac yn fwy felly i artistiaid a chwmnïau newydd. Heb unrhyw ffordd i ddarparu profiadau gwerthfawr yn yr un gofod, os ydynt yn berfformiadau byw, arddangosfeydd, gweithdai neu weithgareddau celfyddydol eraill, rydyn ni i gyd wedi gorfod dysgu, addasu a chreu gwaith newydd o bell.
Ar nodyn mwy positif, mae wedi bod yn gyfle gwerthfawr i weithio mewn gwahanol ffyrdd, ac yn sicr mae hyn wedi bod yn llwyddiannus gyda'n sesiynau Sgriptio ar-lein parhaus. Mae'r niferoedd uwch o aelodau'r gymuned wedi elwa o'r sesiynau nag o'r blaen ac mae llawer o'r mynychwyr wedi mwynhau'r cyfleustra o fynychu gartref, gyda rhai yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus yn rhannu gwaith newydd ar-lein yn hytrach na mewn ystafell gyda'i gilydd. Rydym hefyd wedi cael cyfleoedd anhygoel i rwydweithio a chydweithio â chwmnïau ac artistiaid celfyddydol eraill, a myfyrio ar bethau y mae angen iddynt newid yn ein harferion o ran amrywiaeth a chynhwysiant, ein heffaith ar yr amgylchedd, a'n hawydd am newid cymdeithasol.
Wrth i ni barhau i ddal ati er bod dim ond tîm bach gennym ni ac rydym wedi colli llawer o incwm posib, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl bobl ifanc, aelodau o'r gymuned ac artistiaid proffesiynol sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl i ni dal ati i wneud profiadau celfyddydol newydd a chyffrous i bobl yng Ngheredigion, Cymru a ledled y DU.