Prosiect “Hi, Fi a’r Peth” yn darparu cyfres bwerus o weithdai ar gyfer pobl ifanc
Mae “Hi, Fi a’r Peth / Her, Me and It” yn brosiect arloesol gan Gwmni Ennyn sydd wedi ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Pwrpas y prosiect yw rhannu straeon pobl sydd wedi profi trais rhywiol a chodi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n cael eu gwynebu gan bobl ifanc. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r prosiect wedi cynnwys sesiynau datblygu sgript gyda mewnbwn pobl ifanc a goroeswyr trais rhywiol, ffilmio a chynhyrchu mewn cydweithrediad â Chyfryngau AMP, cyfleoedd datblygu proffesiynol a chyfres derfynol o weithdai yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn y gyfres o weithdai roedd cyfle i grwpiau o bobl ifanc siarad am yr iaith rydym yn ei defnyddio wrth drafod trais rhywiol, yn ogystal â gweld rhagolwg o’r ffilm sy'n cael ei chynhyrchu. Roedd yn creu gofod diogel i bobl rannu eu meddyliau a’u profiadau, yn ogystal â dathlu’r dewrder anweledig gan bobl sydd wedi profi trais rhywiol. Sail y prif gyfraniadau oedd y trafodaethau, gan ganiatáu i bobl ifanc rannu gwahaniaeth barn ac ymatebion i’r ffilm. Roedd aelodau o’r cwmni yn darparu gwybodaeth am ba sefydliadau cymorth sydd ar gael i gefnogi goroeswyr yn ystod y sesiynau hefyd.
Roedd adborth cadarnhaol iawn ar gyfer y sesiynau, gyda llawer yn dweud nad oeddent wedi bod mewn gweithdy fel hwn erioed a’u bod yn teimlo’n fwy hyderus i siarad am y pwnc anodd gydag eraill wedi'r profiad. Dywedodd Anna Sherratt, rheolwraig y prosiect: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i rannu a gwella, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl bobl ifanc ac aelodau cymunedol anhygoel a gymerodd ran yn y prosiect am eu dewrder a’u haelioni yn ystod y sesiynau. Mae’n amlwg bod y math hwn o waith yn brin, yn anffodus, ond mae’r angen yn fawr yn ein cymunedau os ydym am ostwng y cyfraddau uchel o drais rhywiol a’r anhawster wrth chwilio cefnogaeth y mae’r rhai sydd wedi cael y profiadau hyn yn gwynebu.”
Yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017, amcangyfrifodd Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr (CSEW) bod 20% o fenywod a 4% o ddynion wedi profi ymosodiad rhywiol ar ôl iddyn nhw gyrraedd 16 oed, ac yn 2018 roedd pobl ifanc yn cynrychioli 35% o ddefnyddwyr gwasanaeth Rape Crisis. Roedd Cwmni Ennyn yn falch iawn wrth wneud cysylltiadau â New Pathways (gwasanaeth Cymorth Cam-drin Rhywiol) ac aelodau o Heddlu Dyfed Powys yn ystod y prosiect, ac mae’r tîm gobeithio parhau i weithio gyda sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth. Bydd y ffilm olaf, sydd fod i gael ei rhyddhau yn 2022, yn waddol i’r prosiect. Bydd yn cael ei chynnig i ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Cymru fel adnodd ochr yn ochr â chyfres arall o weithdai, gan adeiladu ar y gwaith a ddigwyddodd eisoes yn ystod y prosiect “Hi, Fi a’r Peth”.