Cwmni Ennyn yn cyflwyno

Rholiwch Am Wellhad (Logo)

3 Awst, 8:00yh a 5 Awst, 2:30yp
Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron

IMG_0027.jpg
 

Cyfarwyddwyd ac ysgrifennwyd gan
Anna Sherratt

CAST
Siôn James fel Nathan / Nila
Cerys Burton fel Jessie / Tala
Gweni King fel Martha / Tarifian
Ashe Jones fel Dylan / Damien
a Maeve Courtier Lilley fel Izzy

 


CRIW

 

Barrie Stott - Rheolwr Cynhyrchu
Helen Yates - Technegydd Goleuadau
Ashley Morgan - Technegydd Sain
Abi Rose - Cynorthwy-ydd Rheoli Llwyfan

Curtis Rodney - Swyddog Dylunio
Claire L Stott - Ffotograffydd
Karen Evans - Gwisgoedd
Helen Yates - Propiau

 
 


Gyda diolch i Beth Touhig-Gamble, Phil Jones, Catrin Davies,
Ysgol Penglais a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

 
 

... Achos o hyn ymlaen, ‘dyn ni’n rhan o’r stori, a thra bod ni yma, ‘dyn ni’n gallu bod yn bobl wahanol. ‘Dyn ni’n gallu bod yn unrhywun neu unrhywbeth ‘dyn ni eisiau bod.

GAIR GAN Y CYFARWYDDWR

Daeth yr hedyn o’r syniad hwn pan welais fy nhaflen diagnosis lymffoma di-hodgkin tua wyth mlynedd yn ôl. Roedd fy siawns gwella a siawns goroesi’n nofio o flaen fy llygaid mewn niferoedd ac ystadegau du a gwyn, ac yn atgoffa fi o gymeriad mewn gêm cyfrifiadur, gyda bar iechyd a bar cryfder yn ymddangos mewn niferoedd ac ystadegau du a gwyn. O’r gymhariaeth, daeth sawl syniad arall, yn enwedig am yr iaith inni’n defnyddio i ddisgrifio pobl sydd ar eu triniaethau - yn ddewr, yn arwyr. Roeddwn i wir yn dechrau teimlo’n genfigennus o gymeriadau mewn gemau, oedd yn cael y fraint o frwydro a marw mewn ffyrdd mor arwrol a gogoneddus, yn lle’r diflaniad tawel, anurddasol roedd sawl ffrind yn y ward yn gwynebu. Trafodais hyn i gyd yn hir gyda nhw, yn gwerthfawrogi’r cyfeillgarwch arbennig sy’n tyfu yng ngwyll yr ysbyty, ac yn gobeithio gwneud cyfiawnder i’w lleisiau un diwrnod. 

Mae creu’r sioe yma wedi bod yn daith hir, yn llawn arbrofi, ac mewn gwirionedd nid yw’r daith wedi gorffen eto. Mae pob perfformiad wedi bod yn amherffaith, yn wirion, ac yn rhyfeddol yn y ffordd rydyn ni dal yn profi pethau annisgwyl er bod y tîm wedi gweld e cymaint o weithiau. Rwyf yn hynod o ddiolchgar i’r cast, sydd wedi bod yn anhygoel yn eu brwdfrydedd i archwilio haenau’r cymeriadau ac amynedd wrth ddysgu sawl posibiliad y sioe (ar ben paratoi nifer o ddarnau byrfyfyr). Maen nhw wir wedi gwneud y sioe yn perthyn iddynt, gyda’r criw technegol sydd wedi bod mor garedig, yn chwilio’r syniadau gorau gyda chyffro er bod natur y sioe yn creu llawer o heriau iddynt. 

Diolch yn fawr iawn ichi am anturiaethu gyda ni heddiw, ac am eistedd gyda’r ansicrwydd a phethau annisgwyl am gyfnod. 


CWMNI ENNYN AWAKEN PRODUCTIONS

Y mae Cwmni Ennyn yn gwmni theatr ddwyieithog sydd wedi ei sefydlu i gynhyrchu straeon sy’n berthnasol i bobl ifanc, ar ben cyfleoedd iddynt gyfarwyddo, ysgrifennu a llwyfannu gwaith newydd. Rydym am greu straeon a cherddoriaeth gyfoes a chwareus, yn ogystal â ffeindio ffyrdd newydd o berfformio testunau clasurol. Rydym am gynnal profiadau gwerthfawr ym mhob maes y theatr i bawb sy'n gweithio gyda ni cyn iddynt ddechrau ar eu gyrfeydd yn y diwydiant, ar ben y gefnogaeth sydd angen arnynt i droi ei syniadau mewn i berfformiadau.