Rholiwch am Wellhad - Galwad am actorion ifanc!
Eisiau cael blas o weithio fel actor?
Y flwyddyn yma, rydym wedi cael cyfle i gomisiynu fersiwn iaith Gymraeg o’r ddrama “Rholiwch am Wellhad / Roll for Remission” ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol 2022.
Rydym yn chwilio 4 actor ifanc oedran 16-22 i chwarae’r pedwar prif ran ar bwys actor proffesiynol bydd yn chwarae rhan Izzy/Ian (Cydlynydd Cymorth Ieuenctid) sy’n trefnu gweithgareddau ar y ward. Yn ystod clyweliad, byddwn yn cael sgwrs am y sioe a’r cymeriadau cyn ichi ddarllen monolog fer. Mae’r monologau ar gael yn y pecyn isod.
Byddwn yn ymarfer yn ystod pythefnos cyntaf gwyliau’r haf cyn mynd i’r Eisteddfod i berfformio ar lwyfan cenedlaethol!
Rydym yn cynnig bwrsariaeth o £200 i bob actor sy’n cael ei dewis er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y cyfle yma.
Ble mae’r ymarferion? Yn Aberystwyth (Manylion adeilad i’w ddilyn)
Pryd mae’r ymarferion? 19-23 a 25-29 Gorffennaf, 10.30yb-5yp (bydd egwyl cinio)
Perfformiadau: 30 Gorffennaf a 5 Awst am 3yp, Theatr y Maes, Tregaron
(mae’r perfformiadau’n para tua awr)
Clyweliadau: Dydd Sadwrn 25 a Ddydd Sul 26 Mehefin (2-4yp) dros galwad fideo. Mae opsiwn ichi mynychu ar un diwrnod neu’r llall.
Cofrestrwch am Sesiwn 1 (25/06/2022) - www.awakennyn.co.uk/clyweliad_1
Cofrestrwch am Sesiwn 2 (26/06/2022) - www.awakennyn.co.uk/clyweliad_2
FFEINDIWCH RAGOR O WYBODAETH A MONOLOGAU I’W DDARLLEN YN Y PECYN ISOD!